Dylai ymarfer corff fod yn rhan annatod o’n bywydau.

P’un a ydych chi eisiau ymwneud â gweithgaredd yn eich amser sbâr neu hyfforddi ar gyfer digwyddiad gwydnwch, mae aros yn egnïol ac yn iach yn un o nodau craidd bywyd.

Mae ymarfer corff yn codi’ch hwyliau, yn cynyddu hunanhyder, yn gwella cwsg, yn eich helpu i golli pwysau ac yn lleihau’r perygl o salwch cronig.

Mae maeth da yn gweithredu fel ‘system gynhaliol’ eich corff.

Ochr yn ochr ag ymarfer corff, mae’n rhoi tanwydd i’ch corff ar gyfer iechyd a lles, perfformio ac adfer.

Mae maeth a deiet da yn sail i fyw bywyd iach.

Mae ymarfer corff yn helpu i wneud y canlynol:

Codi’ch hwyliau

Cynyddu hunanhyder

Gwella cwsg

Colli pwysau

Lleihau risg salwch cronig

Victoria Jones, BSc (Anrh) PGCERT (Maeth Chwaraeon)

A hithau’n ddietegydd clinigol, mae gan Victoria Jones fwy nag ugain mlynedd o brofiad yn ein GIG ac mae’n Ddietegydd Perfformiad Chwaraeon ac Ymarfer Corff achrededig.

Mae’r llythrennau ar ôl ei henw, sef BSc (Anrh) a PGCERT, yn golygu rhagoriaeth academaidd ar lefel gradd ac ôl-raddedig.

Ond mae gan Victoria fwy na’r cymwysterau academaidd; mae ganddi’r sgiliau a’r wybodaeth ymarferol sy’n ei gwneud yn arbenigwraig uchel ei pharch a edmygir yn ei maes.

Mae’r diwydiant iechyd a ffitrwydd wedi tyfu’n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Un o anfanteision hyn yw bod rhai pobl yn y diwydiant yn honni eu bod yn ‘arbenigwyr maeth’.

I rai, mae maeth wedi dod yn ddryslyd ac yn gamarweiniol.

Ar un llaw, gall cyngor arbenigol ac wedi’i deilwra ar faeth gyflawni canlyniadau gwych.

Ar y llaw arall, gall cyngor gwael arwain at ddiffygion maethol, salwch ac anaf.

Nod Victoria fel Deietegydd Chwaraeon yw rhoi hyfforddiant, cyngor a chymorth arbenigol, unigol ac wedi’u teilwra i chi sy’n ddiffwdan ac wedi’u seilio ar dystiolaeth.

P’un a ydych chi eisiau cynyddu’ch lefelau egni, gwella cyfansoddiad eich corff, hybu eich perfformiad neu gynllunio ar gyfer ras neu ddigwyddiad pwysig, gall Victoria eich helpu i gyflawni eich nodau.

Mae Victoria yn gyfathrebwr gwych sy’n gallu deall anghenion a dyheadau ei chleientiaid.

Yn fyr, o ran ymarfer corff a maeth, mae’n gwybod ei phethau.

Gallwch ddibynnu arni i’ch tywys ar y daith tuag at fersiwn well ohonoch eich hun!

Nod Victoria fel Dietegydd Chwaraeon yw darparu hyfforddiant maetheg arbenigol, cyngor a chefnogaeth, sef:

yn uniongyrchol

yn ymarferol

wedi’u seilio ar dystiolaeth

yn unigol ac wedi’u teilwra

P’un a ydych chi eisiau teimlo’n llai blinedig, colli pwysau, gwella eich hyfforddiant a’ch ffitrwydd neu gynllunio ar gyfer ras neu ddigwyddiad pwysig, gall Victoria eich helpu i gyflawni eich nodau.

Working with:

Blog

The best kept secret in Sports Nutrition

The best kept secret in Sports Nutrition

The secret is out!!  What is one of the most exciting and emerging areas of sports nutrition ? Clue .. it involves FOOD (yey!)  Have you heard of the Gut Microbiome? It is the collection of bacteria in your gut that play an essential role in breaking down and helping...

5 Sports Nutrition Tips for a Healthier You

5 Sports Nutrition Tips for a Healthier You

It's the start of a new year! So how are we all feeling? Indulged a little over Christmas? I know I did! January can be a difficult month, it's dark and cold and can feel tough! At the same time it's also an opportunity to refocus, plan and prioritise your goals for...

Beating the Winter Bugs and Staying Healthy

Beating the Winter Bugs and Staying Healthy

At this time of year it feels like everyone is either sneezing or coughing! Although exercise is proven to be good for us we also know that those of us that exercise regularly can be more susceptible to illness especially during the winter months. Getting ill can lead...