GWASANAETHAU

E-BOST VICTORIA

Mae Victoria yn credu’n gryf bod maeth da yn gallu gwneud gwahaniaeth i chi beth bynnag fo’ch oedran neu’ch lefel ffitrwydd. Mae hi’n cynnig amrywiaeth o wahanol becynnau neu’n gallu teilwra pecyn i fodloni’ch anghenion.

I drafod eich gofynion, y peth gorau y gallwch ei wneud yw cysylltu!

'Rhoi tanwydd i’ch perfformiad

IECHYD A LLES

Ydy maeth yn eich drysu? Ydych chi wedi cael digon ar golli a magu pwysau’n ddi-baid a deietau eithafol?

Byddaf yn eich helpu i fwynhau bwyd eto a deall sut i faethu’ch corff i gyflawni eich nodau iechyd a ffitrwydd yn ddiffwdan. Os ydych chi eisiau teimlo’n gryfach ac yn fwy ffit nag erioed a theimlo’n hyderus yn eich croen wrth edrych yn y drych, dyma’r cynllun i chi.

ATHLETWYR IFANC

Oes gennych chi’r Alistair Brownlee neu’r Serena Williams nesaf?

Y peth gorau y gallwch ei roi i’ch plentyn yw gwybodaeth. Helpwch nhw i gael mantais dros y gweddill a rhowch yr offer iddynt allu cynnal eu hiechyd a’u ffitrwydd am flynyddoedd i ddod.

CYNLLUN PERFFORMIO

Ydych chi’n gweithio tuag at ddigwyddiad neu’n hyfforddi ar gyfer camp benodol? Gallaf eich helpu i gael tanwydd ar gyfer eich hyfforddiant a theimlo’n fwy egnïol ar ei gyfer, ond hefyd ar gyfer bywyd pob dydd fel bod ffitrwydd yn dod yn rhan sylfaenol ohonoch. Ydych chi’n gweithio tuag at ddigwyddiad neu’n hyfforddi ar gyfer camp benodol? Gallaf eich helpu i gael tanwydd ar gyfer eich hyfforddiant a theimlo’n fwy egnïol ar ei gyfer, ond hefyd ar gyfer bywyd pob dydd fel bod ffitrwydd yn dod yn rhan sylfaenol ohonoch.

Byddaf yn gweithio gyda chi i ddarparu cyngor credadwy sydd wedi’i seilio ar dystiolaeth a’i deilwra i chi, ynghyd â chynllun strwythuredig i gyrraedd eich nodau. Byddwn yn llunio’r cynllun gyda’n gilydd gan ystyried eich ffordd o fyw a’r hyn rydych chi’n ei hoffi a ddim yn ei hoffi. Rwy’n sylweddoli bod bywyd yn brysur, felly mae fy nghynlluniau’n ddiffwdan, yn syml ac yn hawdd eu dilyn, ond wedi’u teilwra’n benodol i chi.

PECYN PROFESSIYNOL

Ydych chi’n anelu at eich ‘ras berffaith’? Os ydych chi eisiau chwalu eich perfformiad gorau yn hytrach na chystadlu yn unig, dyma’r pecyn i chi. Byddwch yn cael cyngor ar faeth chwaraeon sy’n arloesol, yn gyfredol ac wedi’i seilio ar dystiolaeth, yn union fel mae timau ac athletwyr proffesiynol yn ei gael. Gallwch osgoi salwch ac anaf trwy fuddsoddi yn y cymorth maeth gorau.

Dyma’r agosaf y byddwch yn dod at gael eich maethegydd chwaraeon personol eich hun! Byddaf yn gweithio o amgylch eich byd a’ch hyfforddiant chi, a gallaf hefyd weithio gyda’ch hyfforddwr i deilwra cynllun maeth / hydradiad i fodloni’ch anghenion.

CYFLWYNIADAU I GLYBIAU CHWARAEON

A hoffai eich clwb gael cyflwyniad wedi’i deilwra ar faeth sy’n ymdrin â phob agwedd ar faeth, hydradiad a pherfformio?

Gall cyflwyniadau gael eu teilwra i fodloni gofynion penodol. Mae’n ffordd wych o roi mantais i’ch clwb!

CYSYLLTWCH Â FI

Trefnwch alwad ddarganfod heb rwymedigaeth i gael gwybod mwy neu cysylltwch â fi