Nutrition support for active people
TREFNWCH YMGYNGHORIAD
MAETH PERFFORMIAD CHWARAEON
Mae Victoria yn credu bod maeth da yn gallu gwneud gwahaniaeth i chi beth bynnag fo’ch oedran neu’ch lefel ffitrwydd. Mae hi’n cynnig amrywiaeth o wahanol becynnau neu’n gallu teilwra pecyn i fodloni’ch anghenion. Y peth gorau i’w wneud yw cysylltu i drefnu galwad am ddim, heb rwymedigaeth, i drafod eich anghenion!
MAETH CHWARAEON CYMRU
Ydy Maeth yn eich drysu? Beth bynnag fo’ch nodau ymarfer corff a ffitrwydd, mae’n bwysig iawn eich bod yn cael y cyngor gorau posibl ar faeth.
Byddaf gyda chi ar bob cam o’ch taith, gan gynnig cyngor arbenigol, unigol a phroffesiynol i gyflawni’ch nodau a’r canlyniadau gorau oll.
Victoria Jones – Ddeietegydd Chwaraeon
Victoria Jones BSc (Anrh) Deieteteg PgCert (Maeth Chwaraeon) Mae gan Victoria dros ugain mlynedd o brofiad yn y GIG ac mae hi’n Ddeietegydd Chwaraeon blaenllaw. Mae ganddi wybodaeth helaeth am faeth clinigol a pherfformiad chwaraeon a phrofiad sylweddol yn y maes.
Dyma rai enghreifftiau o sut gallaf weithio i chi
Cynllunio ar gyfer llwyddiant
Byddaf yn treulio amser yn deall eich nodau unigol fel y gallaf weithio gyda chi i’w cyflawni. Rwy’n cynnig ymgynghoriadau un i un ac amrywiaeth o gynlluniau maeth i fodloni’ch anghenion. Rwy’n sylweddoli bod bywyd yn brysur a byddaf yn ceisio gweithio yn unol â’ch amserlen.
Asesiad maeth manwl
Byddaf yn asesu eich deiet a’ch hyfforddiant i greu cynllun sy’n bodloni’ch anghenion. Ddim yn hoffi bresych deiliog neu afocado? Peidiwch â phoeni! Byddaf yn gweithio gyda’ch hoff a chas bethau. Dim amser i baratoi neu goginio prydau cymhleth? Peidiwch â phoeni! Mae fy nghynlluniau’n ddiffwdan.
Arweiniad a chymorth
Byddaf yn gweithio gyda chi i ddatblygu cynllun sy’n gweithio i chi. Byddwn yn cytuno ar faint o gymorth y mae arnoch ei angen – bydd hyn yn eich helpu i gyflawni llwyddiant tymor hir.

CYNGOR MAETH ARBENIGOL
Mae Victoria yn arbenigo mewn rhoi cyngor arbenigol ar faeth i bobl egnïol.
P’un a ydych chi’n cymryd rhan mewn gweithgaredd yn eich amser sbâr neu’n athletwr cystadleuol, bydd Victoria yn gweithio gyda chi i gael y mwyaf o’ch maeth i gyflawni’ch nodau iechyd a ffitrwydd.




